Ffederasiwn Bwyd a Diod (FDF) Cymru yw adran Cymru o’r Ffederasiwn Bwyd a Diod sy'n cynrychioli gweithgynhyrchwyr bwyd a diod ledled y DU. Mae ein haelodaeth yn cynnwys cwmnïau bwyd a diod o bob maint, o fusnesau teulu bach i frandiau mawr byd-eang.
Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn stori lwyddiant economaidd ac yn rhan hanfodol o hunaniaeth genedlaethol Cymru. Mae'n cyflogi 24,300 o bobl mewn dros 550 o fusnesau ledled Cymru gyda throsiant o £5.2bn.
Rydym yn sicrhau bod barn ein haelodau yn cael ei glywed gan Lywodraeth Cymru ac yn Senedd Cymru, yn ogystal â chan wneuthurwyr polisi perthnasol yn Llywodraeth y DU, gan gynnwys Swyddfa Cymru, fel eu bod yn y lle gorau i ddarparu'r amgylchedd gywir i'r sector ffynnu.
Cefnogir ein cyfraniad gan dîm rhagorol FDF gan ganolbwyntio ar feysydd penodol yng Nghymru gan gynnwys yr Economi, Pontio UE, Adferiad Covid-19, Cyflogaeth a Gwaith Teg, Prentisiaethau a Sgiliau, Diet a Maeth, Rheoleiddio, Cynaliadwyedd Amgylcheddol,Twf Diwydiant a Strategaeth Gweithgynhyrchu.
Beth rydyn ni'n ei wneud
- Cefnogi ein haelodau: rydym yn darparu gofal cwsmer penodol Cymreig i aelodau.
- Gweithio gyda’r Diwydiant: rydym yn cydweithredu â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, y Rhwydwaith Clwstwr mewn digwyddiadau fel Blas Cymru, ac yn bartner i AMRC Cymru ar becynnu bwyd a diod.
- Siapio polisi: lle mae'n bwysig i'n sector, rydym yn ymgysylltu'n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Senedd.
- Marchnata'r sector: rydym yn falch o arddangos ein rhagoriaeth ac yn amlygu’r cyfleoedd ar gyfer busnesau.
Ein pobl
Pete Robertson
Mae Pete Robertson yn Gyfarwyddwr Dros Dro FDF Cymru. Mae gan Pete dros 25 mlynedd o brofiad o weithio yn niwydiant bwyd a diod Cymru, gan gynnwys chwe blynedd fel Rheolwr Gyafrwyddwr Deeside Cereals. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cadeiriodd Breakfast Cereal UK a chymerodd rhan yng ngrŵp llywio Cynaliadwyedd FDF.
Julie Byers
Mae Julie Byers yn Rheolwr Materion Cyhoeddus yn FDF. Fel rhan o'i rôl, mae hi’n datblygu a rheoli ymgysylltiad FDF â Seneddwyr yn Senedd y DU yn ogystal ag yn Senedd Cymru.
What we can help your business

What we do
The Food and Drink Federation (FDF) is the convenor, adviser and voice of the UK food & drink industry, the largest manufacturing sector in the country.

Our people
The FDF employs around 65 people. The Cymru team keeps members across the UK up-to-date with policy that could have an impact on their business.

Our full FDF members
FDF members range from global brands to ambitious, growing SMEs, to sole traders.

Our Professional Affiliates
Our professional affiliates offer professional services to the food and drink sector. Through these partnerships we hope that our members will benefit from their knowledge and insight.

How we can help your business
We represent and protect the interests of food and drink companies of all sizes, across all sectors of the industry.

Join FDF Cymru
Making the best use of your time and resource is key. Being an FDF Cymru member will equip you with the expertise to grow, protect and strengthen your business.